1 Brenhinoedd 2 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dafydd yn rhoi cyngor i Solomon, 3 i fod yn dduwiol, 5 ynghylch Joab, 7 Barsilai, 8 a Simei; 10 ac yn marw. 12 Solomon yn frenin ar ei ôl ef. 13 Adoneia yn ceisio gan Bathseba ddywedyd wrth Solomon am Abisag, ac yn cael ei ddihenydd. 26 Abiathar yn cael ei hoedl, ac yn colli yr offeiriadaeth. 28 Joab yn ffoi at gyrn yr allor, a’i ladd ef; 35 a gosod Benaia yn lle Joab, a Sadoc yn lle Abiathar. 36 Simei yn cael gorchymyn i aros yn Jerusalem; ac am fyned i Gath, yn gorfod arno farw.

1Yna dyddiau Dafydd a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd,

2ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed.

6Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i’w benllwydni ef ddisgyn i’r bedd mewn heddwch.

7Ond i feibion dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: omedd fi. Hithau a ddywedodd wrtho, Dywed.

17Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi.

18A dywedodd Bathseba, Da; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin.

19Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A’r brenin a gododd i’w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eisteddodd ar ei orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a Edrych Salm 45:9hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.

20Yna hi a ddywedodd, Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt; na omedd fi. A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Gofyn, fy mam: canys ni’th omeddaf.

21A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd.

22A’r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd hŷn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia.

23A’r brenin Solomon a dyngodd i’r Arglwydd, gan ddywedyd, Ruth 1:17Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn.

24Yn awr gan hynny, fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a’m sicrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis 2 Sam 7:11, 13y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth.

25A’r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.

26Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Jos 21:18Anathoth, i’th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhad Dafydd, ac 1 Sam 22:20; 2 Sam 15:24am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.

27Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i’r Arglwydd; fel 1 Sam 2:31–35y cyflawnai air yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo.

28A’r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr Arglwydd, ac Pen 1:50a ymaflodd yng nghyrn yr allor.

29A mynegwyd i’r brenin Solomon, ffoi o Joab i babell yr Arglwydd; ac wele, y mae efe wrth yr allor. A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada, gan ddywedyd, Dos, rhuthra arno ef.

30A daeth Benaia i babell yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Joab, ac fel hyn y’m hatebodd.

31A dywedodd y brenin wrtho ef, Exod 21:14Gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnaf fi, ac oddi ar dŷ fy nhad i.

32A’r Arglwydd Salm 7:16a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; oherwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef 2 Sam 3:27Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac 2 Sam 20:10Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.

33A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac 2 Sam 3:29ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i’w had, ac i’w dŷ, ac i’w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr Arglwydd.

34Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a’i lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.

35A’r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth. A’r brenin a osododd 1 Sam 2:35; Edrych 1 Cron 6:53; 24:3Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

36A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am 2 Sam 16:5Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw.

37Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros 2 Sam 15:23afon Cidron, gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.

38A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer.

39Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha, brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath.

40A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a aeth i Gath at Achis, i geisio ei weision: ie, Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath.

41A mynegwyd i Solomon, fyned o Simei o Jerwsalem i Gath, a’i ddychwelyd ef.

42A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni pherais i ti dyngu i’r Arglwydd, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd, Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf, Da yw y gair a glywais.

43Paham gan hynny na chedwaist lw yr Arglwydd, a’r gorchymyn a orchmynnais i ti?

44A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost 2 Sam 16:5yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr Arglwydd am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun;

45A bendigedig fydd y brenin Solomon, a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr Arglwydd yn dragywydd.

46Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada; ac efe a aeth allan, ac a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw. A’r 2 Cron 1:1frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw Solomon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help