Josua 21 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Rhoddi wyth ddinas a deugain i’r Lefiaid, wrth goelbren, allan o’r llwythau eraill. 43 Duw yn rhoddi y wlad, a llonyddwch i’r Israeliaid, yn ôl ei addewid.

1Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel;

2Ac a lefarasant wrthynt yn Gaer‐arba, tad Holon a’i meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol,

16Ac Ain a’i meysydd pentrefol, a Jwtta a’i meysydd pentrefol, a Bethsemes a’i meysydd pentrefol: naw dinas o’r ddau lwyth hynny.

17Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a’i meysydd pentrefol, a Geba a’i meysydd pentrefol,

18Anathoth a’i meysydd pentrefol, ac Almon a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

19Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.

20A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim.

21A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a’i meysydd pentrefol,

22A Cibsaim a’i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.

23Ac o lwyth Dan, Eltece a’i meysydd pentrefol, Gibbethon a’i meysydd pentrefol.

24Ajalon a’i meysydd pentrefol, Gath‐rimmon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.

25Ac o hanner llwyth Manasse, Tanac a’i meysydd pentrefol, a Gath‐rimmon a’i meysydd pentrefol: dwy ddinas.

26Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a’u meysydd pentrefol.

27Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, a Beestera a’i meysydd pentrefol: dwy ddinas.

28Ac o lwyth Issachar, Cison a’i meysydd pentrefol, Dabareth a’i meysydd pentrefol,

29Jarmuth a’i meysydd pentrefol, En‐gannim a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

30Ac o lwyth Aser, Misal a’i meysydd pentrefol, Abdon a’i meysydd pentrefol,

31Helcath a’i meysydd pentrefol, a Rehob a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

32Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, a Hammoth‐dor a’i meysydd pentrefol: tair dinas.

33Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.

34Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o’r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a’i meysydd pentrefol, a Carta a’i meysydd pentrefol,

35Dimna a’i meysydd pentrefol, Nahalal a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

36Ac o lwyth Reuben, Beser a’i meysydd pentrefol, a Jahasa a’i meysydd pentrefol,

37Cedemoth a’i meysydd pentrefol, Meffaath a’i meysydd pentrefol: pedair dinas.

38Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, a Mahanaim a’i meysydd pentrefol,

39Hesbon a’i meysydd pentrefol, Jaser a’i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.

40Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.

41Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a’u meysydd pentrefol.

42Y dinasoedd hyn oedd bob un â’u meysydd pentrefol o’u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.

43A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddianasant hi, ac a wladychasant ynddi.

44Pen 11:23Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt.

45Pen 23:14Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help