1Barn fi, O Dduw, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn.
2Canys ti yw Duw fy nerth: paham y’m bwri ymaith? Salm 42:9paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
3 Salm 40:11; 57:3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll.
4Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw.
5 Salm 42:5, 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
