1Tithau fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio, ac odre.
4A chymer eilwaith rai ohonynt hwy, a thafl hwynt i ganol y tân, a llosg hwynt yn tân: ohono y daw allan dân i holl dŷ Israel.
5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Jerwsalem yw hon: gosodais hi ymysg y cenhedloedd a’r tiroedd o’i hamgylch.
6A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na’r cenhedloedd, a’m deddfau yn fwy na’r gwledydd sydd o’i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau a’m deddfau, ni rodiasant ynddynt.
7Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i chwi amlhau yn fwy na’r cenhedloedd sydd o’ch amgylch, heb rodio ohonoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, ac Jer 2:10, 11na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o’ch amgylch;
8Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi, ie, myfi, ydwyf yn dy erbyn, a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhedloedd.
9A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum, ac nis gwnaf ei fath mwy, am dy holl ffieidd‐dra.
10Am hynny y tadau Lef 26:29; Deut 28:53; 2 Bren 6:29; Jer 19:9; Galar 2:20; 4:10a fwytânt y plant yn dy fysg di, a’r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.
11Am hynny, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â’th holl ffieidd‐dra ac â’th holl frynti, am hynny hefyd y prinhaf finnau di; ac Pen 7:4, 9; 8:18nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf chwaith.
12 Edrych ad. 2; Jer 15:2 Dy draean fyddant feirw o’r haint, ac a ddarfyddant o newyn, yn dy ganol; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o’th amgylch: a Pen 6:8thraean a daenaf gyda phob gwynt: a Lef 26:33thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
13Felly y gorffennir fy nig, ac y llonyddaf fy llidiowgrwydd yn eu herbyn hwynt, ac Esa 1:24ymgysuraf: a hwy a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a’i lleferais yn fy ngwŷn, pan orffennwyf fy llid ynddynt.
14A rhoddaf di hefyd yn anrhaith, ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o’th amgylch, yng ngolwg pawb a êl heibio.
15Yna y bydd Deut 28:37y gwaradwydd a’r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i’r cenhedloedd sydd o’th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog. Myfi yr Arglwydd a’i lleferais.
16Pan Deut 32:23anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn, y rhai fyddant i’w difetha, y rhai a ddanfonaf i’ch difetha: casglaf hefyd newyn arnoch, a Pen 4:16thorraf eich ffon bara:
17Anfonaf hefyd arnoch newyn, a Lef 26:22bwystfil drwg; ac efe a’th ddiblanta di: haint hefyd a gwaed a dramwya trwot ti; a dygaf gleddyf arnat. Myfi yr Arglwydd a’i lleferais.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.