Jeremeia 20 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Pasur yn taro Jeremeia, ac yn cael enw newydd, a barn ofnadwy. 7 Jeremeia yn achwyn rhag dirmyg, 10 a bradwriaeth, 14 ac yn cwyno ei eni.

1Pan glybu Pasur mab carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd.

3A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar. Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef, Ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur, ond Magor‐missabib.

4Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgluda hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf.

5a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar.

8Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr Arglwydd yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd.

9Yna y dywedais, Ni soniaf amdano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddywedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a’i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno.

11Ond yr Arglwydd oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny Pen 15:20; 17:18fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu Pen 23:40gwarth tragwyddol byth.

12Ond tydi, Arglwydd y lluoedd, yr hwn wyt Pen 11:20; 17:10yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a’r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn.

13Cenwch i’r Arglwydd, moliennwch yr Arglwydd: canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus.

14 Job 3:3; Pen 15:10 Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno: na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam.

15Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr.

16A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd Gen 19:25a ymchwelodd yr Arglwydd, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd:

17Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a’i chroth yn feichiog arnaf byth.

18Job 3:20Paham y deuthum i allan o’r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help