1A’r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho.
2Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben‐publican, a hwn oedd gyfoethog.
3Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth.
4Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
5A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di.
6Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen.
7A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus.
8A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy goruchaf.
39A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion.
40Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, Hab 2:11y llefai’r cerrig yn y fan.
41Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,
42Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
43Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth,
44Ac 1 Bren 9:7, 8; Micha 3:12a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac Mat 24:2; Marc 13:2; Pen 21:6ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45Mat 21:12; Marc 11:11, 15Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;
46Gan ddywedyd wrthynt, Esa 56:7Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr Jer 7:11chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.
47Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A’r Marc 11:18; Ioan 7:19; 8:37archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;
48Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.