Sechareia 7 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Y caethion yn ymofyn am ympryd. 4 Sechareia yn argyhoeddi eu hympryd hwy. 8 Pechod yw yr achos o’u caethiwed hwy.

1Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o’r nawfed mis, sef Cisleu;

2Pan anfonasent Sereser, a Regemmelech, a’u gwŷr, i dŷ Dduw, i weddïo gerbron yr Arglwydd,

3Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain?

7Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a’i dinasoedd o’i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a’r dyffryndir?

8A daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, gan ddywedyd,

9Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i’w frawd:

10Ac Exod 22:21, 22; Deut 24:17; Esa 1:17; Jer 5:28na orthrymwch y weddw a’r amddifad, y dieithr a’r anghenog; ac Pen 8:17na feddyliwch ddrwg bob un i’w gilydd yn eich calonnau.

11Er hyn gwrthodasant wrando, a Neh 9:29; Hos 4:16rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed.

12Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a’r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd.

13A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; felly Diar 1:24–28; Esa 1:15; Jer 11:11; 14:12; Micha 3:4y galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd Arglwydd y lluoedd.

14Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a’r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a’i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant Dan 8:9y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help