1Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys Exod 2:21efe a gymerasai Ethiopes yn wraig.
2A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? Exod 15:20; Micha 6:4oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny.
3A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear.
4A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd.
5Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau.
6Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg, Gen 15:1; 46:2; Esec 1:1; Dan 8:2; 10:8, 16, 17mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu Gen 31:10, 11; 1 Bren 3:5mewn breuddwyd y llefaraf wrtho.
7Nid felly y mae fy ngwas Moses, Heb 3:2yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ.
8Exod 33:11; Deut 34:10Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd: paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses?
9A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith.
10A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac Deut 24:9wele, Miriam ydoedd 2 Bren 5:27wahanglwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus.
11Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom.
12Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam.
13A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Dduw, atolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.
14A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Edrych Heb 12:9Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? Lef 13:46caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll, ac wedi hynny derbynier hi.
15A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn.
16Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Pen 11:35; 33:18Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch Paran.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.