Amos 8 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Wrth gawell o ffrwythydd haf, y dangosir mor agos yw diwedd Israel. 4 Argyhoeddi trais a thraha. 11 Bygwth newyn gair Duw.

1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf.

2Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw.

4Gwrandewch hyn, y sawl ydych mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r y dygom allan y gwenith, Micha 6:10gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, 8:5 Heb. a gwyro cloriannau twyll? Hos 12:7ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll?

6I Pen 2:6brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith?

7Tyngodd yr Arglwydd i Pen 6:8ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o’u gweithredoedd hwynt.

8Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac Pen 9:5oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft.

9A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw, y gwnaf i’r Job 5:14; Esa 59:9, 10; Jer 15:9haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau.

10Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: Esa 15:2; Jer 48:37; Esec 7:18dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a Jer 6:26; Sech 12:10mi a’i gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw.

11Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd Dduw, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond 1 Sam 3:1; Salm 74:9am wrando geiriau yr Arglwydd.

12A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr Arglwydd, ac nis cânt.

13Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched.

14Y rhai Hos 4:15a dyngant i Deut 9:21bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw Edrych Act 9:2; 18:25; 19:9, 23ffordd Pen 5:5Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help