1A ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, Pen 14:29; 16:4Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe.
20Mat 10:40; Luc 10:16Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i.
21Mat 26:21; Marc 14:18; Luc 22:21Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, Pen 12:27efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, Act 1:17; 1 Ioan 2:19y bradycha un ohonoch fi.
22Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd.
23Ac Pen 19:26; 20:2; 21:7, 20, 24yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.
24Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd.
25Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?
26Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon.
27Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.
28Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho.
29Canys rhai oedd yn tybied, am fod Pen 12:6Jwdas a’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i’r tlodion.
30Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos.
31Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.
32Pen 17:1, 5, 6Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac Pen 12:23efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd.
33O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, Pen 7:34; 8:21megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron.
34Lef 19:18; Ioan 15:12, 17; Eff 5:2; 1 Thess 4:9; 1 Ioan 2:7, 8; 3:23; 4:21Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd.
351 Ioan 2:5; 4:20Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd.
36A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr Pen 21:18; 2 Pedr 1:14ar ôl hyn y’m canlyni.
37Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? Mat 26:33, 35; Marc 14:31; Luc 22:33mi a roddaf fy einioes drosot.
38Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.