1 Samuel 22 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Minteioedd yn cyrchu at Dafydd, i Adulam. 3 Yntau ym Mispa yn gorchymyn ei dad a’i fam i frenin Moab: 5 ac wedi cael rhybudd gan Gad, yn dyfod i Hareth. 6 Saul, wrth ei erlid ef, yn achwyn rhag anffyddlondeb ei weision. 9 Doeg yn cyhuddo Ahimelech. 11 Saul yn gorchymyn lladd yr offeiriaid. 17 Y rhedegwyr yn nacau: a Doeg yn gwneuthur ei orchymyn ef. 20 Abiathar yn dianc, ac yn dwyn y newyddion i Dafydd.

1A Dafydd a aeth ymaith oddi yno, ac a mewn dyled, a phob gŵr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr.

3A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab; ac a ddywedodd wrth frenin Moab, Deled, atolwg, fy nhad a’m mam i aros gyda chwi, hyd oni wypwyf beth a wnêl Duw i mi.

4Ac efe a’u dug hwynt gerbron brenin Moab: ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa.

5A bren yn Rama, a’i waywffon yn ei law, a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch;)

7Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd;

8Gan i chwi oll gydfwriadu i’m herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair â mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod i’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn, megis y dydd hwn?

9Yna yr atebodd Pen 21:7; Salm 52 titlDoeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Pen 14:3Ahitub.

10Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â’r Arglwydd; ac Pen 21:6, 9a roddes fwyd iddo ef; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo.

11Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a holl dŷ ei dad ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y brenin.

12A Saul a ddywedodd, Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd.

13A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cydfwriadasoch i’m herbyn i, ti a mab Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf, ac ymgynghori â Duw drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddiw?

14Ac Ahimelech a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon â Dafydd, ac yn ddaw i’r brenin, ac yn myned wrth dy orchymyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di?

15Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori â Duw drosto ef? na ato Duw i mi. Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was, nac yn erbyn neb o dŷ fy nhad: canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll, nac ychydig na llawer.

16A dywedodd y brenin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl dŷ dy dad.

17A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd.

18A dywedodd y brenin wrth Doeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac Edrych Pen 2:31a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn effod liain.

19Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr offeiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.

20Ond un mab i Ahimelech mab Ahitub, a’i enw Abiathar, a ddihangodd, ac Pen 23:6a ffodd ar ôl Dafydd.

21Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd, ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd.

22A dywedodd Dafydd wrth Abiathar, Gwybûm y dydd hwnnw, pan oedd Doeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegai efe i Saul: myfi a fûm achlysur marwolaeth i holl dylwyth tŷ dy dad di.

23Aros gyda mi; nac ofna: canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i, sydd yn ceisio dy einioes dithau: ond gyda mi y byddi di gadwedig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help