1Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim‐soffim, o fynydd Effraim, a’i enw hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi;
6A’i gwrthwynebwraig cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r Arglwydd gau ei bru hi.
7Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd, hi a’i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi.
8Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi fab: yna y rhoddaf ef i’r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes, ac parhau yn gweddïo gerbron yr Arglwydd, i Eli ddal sylw ar ei genau hi.
13A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent; a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw.
14Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt.
15A Hanna a atebodd, ac a ddywedodd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais; eithr yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef, eb hi.
21A’r gŵr Elcana a aeth i fyny, a’i holl dylwyth, i offrymu i’r Arglwydd yr aberth blynyddol, a’i adduned.
22Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo byth.
23Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.
24A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a’i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a’i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo: a’r bachgen yn ieuanc.
25A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli.
26A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, a’i rhoddais ef i’r Arglwydd; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r Arglwydd. Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.