1A darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.
2A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:
3Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys tua’r gorllewin.
5A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, Ond Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.
10Lef 26:8; Deut 32:30; Edrych Barn 3:31; 15:15; 2 Sam 23:8Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, Exod 14:14; 23:27fel y llefarodd wrthych.
11Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw.
12Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau:
13Gan wybod gwybyddwch, Barn 2:3na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; Exod 23:33; Num 33:55; Deut 7:16ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
14Ac wele 1 Bren 2:2; Edrych Heb 9:27fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, Pen 21:45na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt.
15Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi Lef 26:16; Deut 28:15, 16bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
16Pan droseddoch gyfamod yr Arglwydd eich Duw, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.