1Dywedwch wrth eich brodyr, Ammi; ac wrth eich chwiorydd, Rwhama.
2Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch: canys gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a’i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal.
9Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi.
10A brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o’m llaw i.
11Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a’i Sabothau, a’i holl uchel wyliau, beidio.
12A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali.
17Canys Exod 23:13; Jos 23:7; Salm 16:4; Sech 13:2bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau.
18A’r dydd hwnnw y gwnaf Job 5:23; Esa 11:6; Esec 34:25amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; Salm 46:9; Esa 2:4; Esec 39:9; Sech 9:10a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel.
19A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau.
20A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a Jer 31:33, 34thi a adnabyddi yr Arglwydd.
21A’r dydd hwnnw Sech 8:12y gwrandawaf, medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf; a hwythau a wrandawant ar y ddaear;
22A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel.
23A Jer 31:27; Sech 10:9mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac Pen 1:10; Rhuf 9:26; 1 Pedr 2:10a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
