1A ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
20A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren!
21A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Pen 17:20; Luc 17:6Os bydd gennych ffydd, ac Iago 1:6heb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd.
22A Pen 7:7; Marc 11:24; Luc 11:9; 1 Ioan 3:22; 5:14pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.
23 Marc 11:27; Luc 20:1 Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, Exod 2:14; Act 4:7; 7:27gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?
24A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynnaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
25Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef?
26Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: Pen 14:5; Marc 6:20canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd.
27A hwy a atebasant i’r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
28Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.
29Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth.
30A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe.
31Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Luc 7:29, 30Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi.
32Canys Pen 3:1 & cdaeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; Luc 3:12, 13ond y publicanod a’r puteiniaid a’i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.
33Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, Salm 80:9; Can 8:11; Esa 5:1; Jer 2:21; Marc 12:1; Luc 20:9yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac Pen 25:14, 15a aeth oddi cartref.
34A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, Can 8:11, 12i dderbyn ei ffrwythau hi.
35A’r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.
37Ac yn ddiwethaf oll, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
38A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Salm 2:8; Heb 1:2Hwn yw’r etifedd; Pen 26:3; 27:1; Ioan 11:53deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.
39Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant.
40Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hynny?
41Edrych Luc 20:16Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo’r ffrwythau yn eu hamserau.
42Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Salm 118:22; Act 4:11Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni?
43Am hynny meddaf i chwi, Pen 8:12Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.
44Esa 8:14, 15; Sech 12:3; Luc 20:18; Rhuf 9:33; 1 Pedr 2:8A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, Esa 60:12; Dan 2:44efe a’i mâl ef yn chwilfriw.
45A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe.
46Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod Luc 7:16; Ioan 7:40yn ei gymryd ef fel proffwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.