1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth.
2Galara Jwda, a’i phyrth a lesgânt; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerwsalem a ddyrchafodd i fyny.
3A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr: daethant i’r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelsant â’u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a sicr i chwi yn y lle yma.
14Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; amgylchu i dir nid adwaenant.
19Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? Pen 8:15disgwyliasom am heddwch, ac nid oes daioni; ac am amser iachâd, ac wele flinder.
20Yr ydym yn cydnabod, Arglwydd, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid Salm 106:6; Dan 9:8ni a bechasom yn dy erbyn di.
21Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant: cofia, na thor dy gyfamod â ni.
22Sech 10:1, 2A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Salm 135:7; 147:8; Esa 30:23; Pen 5:24; 10:13Onid ti yw efe, O Arglwydd ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
