Josua 16 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Terfynau cyffredinol meibion Joseff. 5 Terfyn etifeddiaeth Effraim. 10 Y Canaaneaid heb eu llwyr‐oresgyn.

1A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel;

2Ac yn myned o Bethel i Barn 1:26Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth;

3Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth‐horon isaf, ac hyd Geser: a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.

4Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.

5A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth‐adar, hyd Beth‐horon uchaf.

6A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath‐seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha:

7Ac yn myned i waered o Janoha, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen.

8O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd.

9A dinasoedd Pen 17:9neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd.

10Ond Barn 1:29; Edrych 1 Bren 9:16ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Geser: am hynny y trigodd y Canaaneaid ymhlith yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help