Nehemeia 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Nehemeia yn gweithio, ac yn myned rhagddo yn adeiladu Jerusalem, er bod y gelynion yn ei watwar: 7 a phan wybu eu dicllonedd a’u cyfrinach hwy, yn gosod gwyliadwriaeth, 13 yn arfogi y gweithwyr, 19 ac yn dysgu iddynt ryfela.

1Pan glybu ddirmygus: dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt, a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed:

5Ac gwbl gyweirio muriau Jerwsalem, a dechrau cau yr adwyau; yna y llidiasant yn ddirfawr:

8A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem, ac i’w rhwystro.

9Yna y gweddiasom ar ein Duw, ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos, o’u plegid hwynt.

10A Jwda a ddywedodd, Nerth y cludwyr a wanhaodd, a phridd lawer sydd, fel na allwn ni adeiladu y mur.

11A’n gwrthwynebwyr a ddywedasant, Ni chânt wybod, na gweled, nes i ni ddyfod i’w mysg hwynt, a’u lladd, a rhwystro eu gwaith hwynt.

12A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.

13Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o’r tu ôl i’r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â’u cleddyfau, â’u gwaywffyn, ac â’u bwâu.

14A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai.

15A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni, Duw a ddiddymodd eu cyngor hwynt; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i’w waith.

16Ac o’r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a’u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a’r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda.

17Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a’r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac â’r llaw arall yn dal arf.

18Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adeiladu: a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.

19A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd.

20Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn, yno ymgesglwch atom. ond a ddiosgai pob un i’w golchi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help