1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwêl, mi a’th wneuthum lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, yn eu llestri coed a cherrig hefyd.
20A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchmynnodd yr Arglwydd: ac efe Pen 17:5a gododd ei wialen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, yng ngŵydd Pharo, ac yng ngŵydd ei weision; a’r holl Salm 78:44; 105:29ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed.
21A’r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a’r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o’r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft.
22A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharo, ac ni wrandawodd arnynt; ad. 3megis y llefarasai yr Arglwydd.
23A Pharo a drodd ac a aeth i’w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.
24A’r holl Eifftiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i’w yfed; canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.
25A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i’r Arglwydd daro’r afon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
