1A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd,
2Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt.
3A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr Arglwydd. A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.
4A Jona a ddechreuodd fyned i’r ddinas daith un diwrnod, ac bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim; na phorant, ac nac yfant ddwfr.
8Gwisger dyn ac anifail â sachlen, a galwant ar Dduw yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth Esa 59:6y trawster sydd yn eu dwylo.
9Joel 2:14Pwy a ŵyr a dry Duw ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?
10A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o’u ffyrdd drygionus; ac Jer 18:8; Amos 7:3, 6edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnâi iddynt, ac nis gwnaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
