1 Brenhinoedd 18 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Eleias, pan oedd dostaf y newyn, wedi ei yrru at Ahab, yn cyfarfod ag Obadeia; 9 a hwnnw yn dwyn Ahab at Eleias: 17 ac yntau yn argyhoeddi Ahab; a thrwy dân o’r nef, yn cael y maes ar broffwydi Baal; 41 a thrwy weddi yn cael gwlaw, ac yn canlyn Ahab i Jesreel.

1Ac ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr Arglwydd at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, Dos, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar wyneb y ddaear.

2Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria.

3Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr:

4Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt â bara ac â dwfr.)

5Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, Dos i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli.

6Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan.

7Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias?

8Yntau a ddywedodd wrtho, Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias.

9Dywedodd yntau, Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd?

10Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi.

11Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias.

12A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, peth.

25Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano.

26A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.

27A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.

28A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt.

29Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.

30A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid.

31Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, drwst llawer o law.

42Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ei ddyfod i Jesreel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help