1Ac o’r sidan glas, a’r porffor, a’r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cysegr: sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.
11A’r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant.
12A’r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.
13A’r bedwaredd res ydoedd, beryl, onics, a iasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd.
14A’r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ôl y deuddeg llwyth.
15A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.
16A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg.
17A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau’r ddwyfronneg.
18A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o’r tu blaen.
19Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod, o’r tu mewn.
20A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr effod, oddi tanodd tua’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.
21Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr effod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr effod, fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
22Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas, yn weadwaith.
23A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.
24A gwnaethant ar odre’r fantell bomgranadau, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, a lliain cyfrodedd.
25Gwnaethant hefyd Pen 28:33glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre’r fantell, o amgylch, ymysg y pomgranadau,
26Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre’r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
27A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i’w feibion.
28A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a Pen 28:42llodrau lliain o liain main cyfrodedd,
29A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: Pen 28:36SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD.
31A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i’w dal hi i fyny ar y meitr; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
32Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.
33Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a’i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a’i cholofnau, a’i morteisiau,
34A’r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r to o grwyn daearfoch, a’r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio;
35Arch y dystiolaeth, a’i throsolion, a’r drugareddfa;
36Y bwrdd hefyd, a’i holl lestri, a’r bara dangos;
37Y canhwyllbren pur, a’i lampau, a’r lampau i’w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i’r goleuni;
38A’r allor aur, ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell;
39Yr allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a’i holl lestri; y noe a’i throed;
40Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a’i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;
41Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu.
42Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.
43A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a’u bendithiodd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.