1 Cronicl 19 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Traha Hanun â’r cenhadau a ddanfonasai Dafydd i’w gysuro ef am ei dad. 6 Yr Ammoniaid yn cael nerth gan y Syriaid; a Joab ac Abisai yn eu gorchfygu hwynt. 16 Soffach yn cael cymorth eto gan y Syriaid; a Dafydd yn ei ladd ef.

1Ac ar ôl hyn yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti?

4Yna y cymerth Hanun weision Dafydd, ac a’u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth eu cluniau, ac a’u gyrrodd hwynt ymaith.

5A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch.

6Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria‐maacha ac o Soba.

7A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a’i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o’u dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel.

8A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.

9A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a’r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilltu yn y maes.

10A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid.

11A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon.

12Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gynhorthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a’th gynorthwyaf dithau.

13Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

14Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef.

15A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i’r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem.

16A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt.

17A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef.

18Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau, a deugain mil o wŷr traed, ac a laddodd Soffach capten y llu.

19A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel, hwy a heddychasant â Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meibion Ammon mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help