1A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yng ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, yng ngwres y dydd.
2at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
6Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, Paratoa ar frys dair ffiolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.
7Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llanc, yr hwn a frysiodd i’w baratoi ef.
8Ac efe a gymerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a baratoesai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyda hwynt tan y pren; a hwy a fwytasant.
9A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sara dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.
10Ac un a ddywedodd, ad. 14Gan ddychwelyd y dychwelaf atat 2 Bren 4:16ynghylch amser bywoliaeth; ac wele Pen 17:19, 21; 21:2; Rhuf 9:9fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ôl ef.
11Pen 17:17; Rhuf 4:19; Heb 11:11, 12Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd.
12Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Luc 1:18Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, 1 Pedr 3:6a’m harglwydd yn hen hefyd?
13A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?
14Jer 32:17; Sech 8:6; Mat 19:26; Luc 1:37A fydd dim yn anodd i’r Arglwydd? Pen 17:21Ar yr amser nodedig y dychwelaf atat, ynghylch amser bywoliaeth, a mab fydd i Sara.
15A Sara a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nage, oblegid ti a chwerddaist.
16A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tua Sodom: ac Abraham a aeth gyda hwynt, Rhuf 15:24; 3 Ioan 6i’w hanfon hwynt.
17A’r Arglwydd a ddywedodd, Amos 3:7; Ioan 15:15A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?
18Canys Abraham yn ddiau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac Pen 12:3; 22:18; Act 3:25; Gal 3:8ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.
19Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo’r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe amdano.
20Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod Pen 4:10; 19:13; Iago 5:4gwaedd Sodom a Gomorra yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn;
21Pen 11:5Disgynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl eu gwaedd a ddaeth ataf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid e, mynnaf wybod.
22A’r gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodom: ac Abraham yn sefyll eto gerbron yr Arglwydd.
23Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol?
24Jer 5:1Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi?
25Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyda’r annuwiol, fel y byddo’r cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: Job 8:3; 34:17; Rhuf 3:6oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?
26A dywedodd yr Arglwydd, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.
27Ac Abraham a atebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi Pen 3:19; Job 4:19; Preg 12:7; 1 Cor 15:47, 48; 2 Cor 5:1yn llwch ac yn lludw.
28Ond odid bydd pump yn eisiau o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain.
29Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef eto, ac a ddywedodd, Ond odid ceir yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain.
30Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Ceir yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.
31Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid ceir yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain.
32Yna y dywedodd, Barn 6:39O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid ceir yno ddeg. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn deg.
33A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.