Mathew 24 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 31. —1 Crist yn rhagfynegi dinistr y deml: 3 pa fath a pha faint o gystuddiau a fydd. 29 Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn. 36 Ac o ran bod y dydd a’r awr yn anhysbys, 42 y dylem ni wylied fel gweision da, yn disgwyl bob amser am ddyfodiad ein meistr.

1A’r llyma Grist, neu llyma; na chredwch.

24Canys â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.

32Ond dysgwch Luc 21:29ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:

33Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch Iago 5:9ei fod yn agos wrth y drysau.

34Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.

35Salm 102:26; Esa 51:6; Pen 5:18; Marc 13:31; Heb 1:11Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

36Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, Sech 14:7; Marc 13:32ond fy Nhad yn unig.

37Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

38Gen 6:3, 4, 5; 7:5; Luc 17:26; 2 Pedr 3:10Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch,

39Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a’u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

40Luc 17:34 &cYna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a’r llall a adewir.

41Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a’r llall a adewir.

42 Pen 25:13 ; Marc 13:33 &c; Luc 21:36Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.

43A Luc 12:39; 1 Thess 5:2; 2 Pedr 3:10; Dat 3:3; 16:15gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.

44Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.

45Luc 12:42Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?

46Dat 16:15Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.

47Yn wir meddaf i chwi, Pen 25:21, 23Ar ei holl dda y gesyd efe ef.

48Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;

49A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon;

50Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe;

51Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr: Pen 8:12; 25:30yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help