1Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe ymgysegru heddiw i’r Arglwydd?
6Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a ymaros.
16O Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd, o’th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll.
17Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd pharatoa eu calon hwynt atat ti.
19A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a’th ddeddfau, ac i’w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo.
20Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr Arglwydd eich Duw. A’r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i’r Arglwydd, ac i’r brenin.
21Aberthasant hefyd ebyrth i’r Arglwydd, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymau i’r Arglwydd, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o ŵyn, a’u diod‐offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:
22Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A 1 Bren 1:35, 39gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i’r Arglwydd yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.
23Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.
24Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, Edrych Gen 24:2; 47:29; Esec 17:18a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.
25A’r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac 1 Bren 3:13; 2 Cron 1:12; Preg 2:9a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel.
26Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel.
271 Bren 2:11A’r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd: 2 Sam 5:5saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
28Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
29Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd,
30Gyda’i holl frenhiniaeth ef, a’i gadernid, a’r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.