Esra 3 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Gosod i fyny yr allor. 4 Amled yr offrymau. 7 Paratoi gweithwyr. 8 Gosod sylfeini y deml gyda llawenydd mawr a galar.

1A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr.

2Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a’i frodyr yr offeiriaid, a Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ Dduw: meibion Henadad, â’u meibion hwythau a’u brodyr y Lefiaid.

10A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr Arglwydd, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau, i foliannu yr Arglwydd, yn ôl 1 Cron 6:31; 16:4; 25:1ordinhad Dafydd brenin Israel.

11A Exod 15:21; 2 Cron 7:3hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr Arglwydd, mai da oedd, 1 Cron 16:41; Jer 33:11mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr Arglwydd, am sylfaenu tŷ yr Arglwydd.

12Ond llawer o’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r pennau‐cenedl, y rhai oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, Edrych Hag 2:3wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd:

13Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn a glywid ymhell.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help