1 Samuel 19 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Jonathan yn datguddio amcan ei dad am ladd Dafydd; 4 ac yn annog ei dad i gymodi ag ef. 8 Maleisus gynddaredd Saul yn torri allan yn erbyn Dafydd, oherwydd ei lwyddiant ef mewn rhyfel newydd. 12 Michal yn siomi ei thad â delw yng ngwely Dafydd. 18 Dafydd yn dyfod at Samuel yn Naioth. 20 Saul yn danfon cenhadau i ddal Dafydd, 22 a Saul ei hun yn proffwydo.

1A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd.

2Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia:

3A mi a af allan, ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo, a mi a ymddiddanaf â’m tad o’th blegid di; a’r hyn a welwyf, mi a’i mynegaf i ti.

4A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Na pheched y brenin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: oherwydd ni phechodd efe i’th erbyn di, ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.

5Canys efe a osododd ei cynt.

8A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef.

9A’r Pen 16:14; 18:10drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â’i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu â’i law.

10A cheisiodd Saul daro â’i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared. A Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd y nos honno.

11Salm 59 titlSaul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i’w wylied ef, ac i’w ladd ef y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, yfory y’th leddir.

12Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr: ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddihangodd.

13A Michal a gymerodd ddelw, ac a’i gosododd yn y gwely; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi, ac a’i gorchuddiodd â dillad.

14A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, Y mae efe yn glaf.

15A Saul a anfonodd eilwaith genhadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd, Dygwch ef i fyny ataf fi yn ei wely, fel y lladdwyf ef.

16A phan ddaeth y cenhadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi.

17A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid e, mi a’th laddaf di.

18Felly Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd, ac a ddaeth at Samuel i Rama; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Saul iddo ef. Ac efe a aeth at Samuel, a hwy a drigasant yn Naioth.

19A mynegwyd i Saul, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn Naioth o fewn Rama.

20A Edrych Ioan 7:32, 45, &c; 1 Cor 14:3, 24, 25Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd. Pen 10:5A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo, a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy, yr oedd ar genhadau Saul ysbryd Duw, fel Num 11:25y proffwydasant hwythau hefyd.

21A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd.

22Yna yntau hefyd a aeth i Rama; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu: ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Samuel a Dafydd? Ac un a ddywedodd, Wele, y maent yn Naioth o fewn Rama.

23Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama. Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Rama.

24Ac efe a ddiosgodd ei ddillad, ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel, ac a syrthiodd i lawr Esa 20:2; Micha 1:8yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos. Am hynny y dywedent, Pen 10:11 A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help