Caniad Solomon 7 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Hysbysrwydd pellach o radau yr eglwys. 10 Yr eglwys yn gwneuthur proffes o’i ffydd, ac o’i dymuniad.

1Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint.

2Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili.

3Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.

6Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a’m hyfrydwch!

7Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a’th fronnau i’r grawnsypiau.

8Dywedais, Dringaf i’r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn‐ganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;

9A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.

10 agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau: yno y rhoddaf fy nghariad i ti.

13Gen 30:14Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau Mat 13:52 y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help