1Gwyn y tlawd: yr Arglwydd a’i gwared ef yn amser adfyd.
2Yr Arglwydd a’i ceidw, ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion.
3Yr Arglwydd a’i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
4Mi a ddywedais, Arglwydd, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn.
5Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
6Ac os daw i’m hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i traetha.
7Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.
8 Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
9 annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.
10Eithr ti, Arglwydd, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
11Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn.
12Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd.
13Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
