1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i’r Arglwydd:
3Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion.
4Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen.
5Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth ef.
13A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.
14A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd, un hesbwrn blwydd, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith‐gwbl, Lef 4:2, 27, 32yn bech‐aberth; ac un hwrdd perffaith‐gwbl, Lef 3:6yn aberth hedd;
15Cawellaid o fara croyw hefyd, sef Lef 2:4teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm hwy.
16A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ei bech‐aberth a’i boethoffrwm ef.
17Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd, ynghyd â’r cawellaid bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a’i ddiod‐offrwm ef.
18Ac Act 21:24eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd.
19Cymered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o’r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo’r Nasaread, wedi eillio ohono ei Nasareaeth;
20A chyhwfaned yr offeiriad hwynt Exod 29:27, 28 yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin.
21Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a’i offrwm i’r Arglwydd am ei Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.
22Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
23Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,
24Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di:
25A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt:
26Salm 4:6Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.
27Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.