1Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef.
2Ac efe a’i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr.
3A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf.
4Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i’w tai.
5Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd?
6Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain.
7Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain.
8A’r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll.
10mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?
12Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?
13mamon.
14A’r Phariseaid hefyd, ballu.
18lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd:
20Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a’i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,
21Ac yn chwenychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.
22A bu, i’r cardotyn farw, a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A’r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd:
23Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes.
24Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i Sech 14:12oeri fy nhafod: canys fe Esa 66:24; Marc 9:44, &ca’m poenir yn y fflam hon.
25Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, Job 21:13coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau.
26Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo’r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na’r rhai oddi yna, dramwy atom ni.
27Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad;
28Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn.
29Abraham a ddywedodd wrtho, Esa 8:20; 34:16; Ioan 5:39, 45; Act 15:21; 17:11Y mae ganddynt Moses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy.
30Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt.
31Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi, Ioan 12:10, 11ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.