1 gyfoeth yn a dawsant.
10A Nabal a atebodd weision Dafydd, ac a ddywedodd, Pwy yw Dafydd? a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddiw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr.
11cig a leddais i’m cneifwyr, a’u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent?
12Felly llanciau Dafydd a droesant i’w ffordd, ac a ddychwelsant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny.
13A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn.
14Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, Wele, Dafydd a anfonodd genhadau o’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni; ond efe a’u difenwodd hwynt.
15A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes.
16Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid.
17Yn awr gan hynny gwybydd, ac ystyria beth a wnelych: canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dŷ ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddiddan ag ef.
18Yna Abigail a frysiodd, ac a gymerth ddau cant o fara, a dwy gostrelaid o win, a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod, a phum hobaid o gras ŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a’u gosododd ar asynnod.
19A hi a ddywedodd wrth ei gweision, Cerddwch o’m blaen i; wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi.
20Ac a hi yn marchogaeth ar asyn, ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd; yna, wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn; a hi a gyfarfu â hwynt.
21A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda.
22wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn.
25Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nabal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist.
26Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r Arglwydd dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal.
27Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd, rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd.
28A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.
29Er cyfodi o ddyn i’th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r Arglwydd dy Dduw; ac enaid dy elynion ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, neu ddial o’m harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.
32A dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i:
33Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendigedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’m llaw fy hun.
34Canys yn wir, fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw, yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod, diau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef.
43A Dafydd a gymerth Ahinoam o Phalti mab Lais, o Alim.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.