Mathew 18 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 32. —1 Crist yn rhybuddio ei ddisgyblion i fod yn ostyngedig ac yn ddiniwed; 7 i ochelyd rhwystrau, ac na ddirmygent y rhai bychain: 15 yn dysgu pa fodd y mae i ni ymddwyn tuag at ein brodyr, pan wnelont i’n herbyn; 21 a pha sawl gwaith y maddeuwn iddynt: 23 yr hyn beth y mae yn ei osod allan trwy ddameg y brenin a gymerai gyfrif gan ei weision, 32 ac a gosbodd yr hwn ni wnaethai drugaredd â’i gydymaith.

1Ar ddisberod; oni ad efe y namyn un cant, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio’r hon a aeth ar ddisberod?

13Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.

14Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn.

15 ethnig a’r publican.

18Yn wir meddaf i chwi, Pen 16:19; Ioan 20:23; 1 Cor 5:4Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef.

19Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a’r a ofynnant, 1 Ioan 3:22; 5:14efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

20Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.

21Yna y daeth Pedr ato ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? Luc 17:4ai hyd seithwaith?

22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith; Pen 6:14; Marc 11:25; Col 3:13ond, Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith.

23Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision.

24A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.

25A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a feddai, a thalu’r ddyled.

26A’r gwas a syrthiodd i lawr, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll.

27Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo’r ddyled.

28Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o’i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a’i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29Yna y syrthiodd ei gyd‐was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll.

30Ac nis gwnâi efe; ond myned a’i fwrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.

31A phan welodd ei gyd‐weision y pethau a wnaethid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai.

32Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am iti ymbil â mi:

33Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd‐was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?

34A’i arglwydd a ddigiodd, ac a’i rhoddodd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo.

35Ac Pen 6:14; Marc 11:26; Iago 2:13felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help