1Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth.
2Clywais, O Arglwydd, dy air, ac ofnais: O Arglwydd, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd.
3Duw o Teman, a’r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a’r ddaear a lanwyd o’i fawl.
4A’i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o’i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder.
5marwor tanllyd allan wrth ei draed ef.
6Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a’r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo.
7Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian.
8A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth?
9Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd.
10wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.
11Yr haul a’r lleuad wrth oleuad dy rhyferthwyasant i’m gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch.
15Rhodiaist â’th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion.
16Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd.
17Er i’r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a’r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o’r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai:
18Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth.
19Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth, offer tannau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
