1Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.
2 Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
3Canys Diar 22:8; Esa 14:5ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.
4O Arglwydd, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau.
5Ond y rhai a ymdroant i’w Diar 2:15trofeydd, yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd Salm 128:6; Gal 6:16tangnefedd ar Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
