Sechareia 10 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Duw sydd raid ymofyn ag ef, ac nid eilunod. 5 Megis yr ymwelodd efe â’i ddiadell am eu pechod, felly yr achub ac yr adfera efe hwy.

1Erchwch ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes.

2Canys delwau a ddywedasant wagedd, a’r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.

3Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda, ac chywilyddir marchogion meirch.

6A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac a’u gwrandawaf hwynt.

7Bydd Effraim hefyd fel cawr, a’u calonnau a lawenychant fel trwy win: a’u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd.

8Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant.

9A Hos 2:23heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y’m cofiant, a byddant fyw gyda’u plant, a dychwelant.

10A Esa 11:11dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac Esa 49:20ni cheir lle iddynt.

11Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac Edrych Esa 11:15a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith.

12Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac Micha 4:5yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help