1Dyma yn awr gorff Jacob oedd Gen 46:27; Deut 10:22ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft.
6A Gen 50:26Joseff a fu farw, a’i holl frodyr, a’r holl genhedlaeth honno.
7A Deut 26:5; Act 7:17phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a’r wlad a lanwyd ohonynt.
8Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff.
9Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele Salm 105:24bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.
10Deuwch, Act 7:19gwnawn yn gall â hwynt; rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fyny o’r wlad.
11Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, Gen 15:13i’w gorthrymu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.
12Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel.
13A’r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.
14A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy’r gwasanaeth caled, Salm 81:6mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.
15A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua:
16Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.
17Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.
18Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?
19Edrych Jos 2:4, &c; 2 Sam 17:19, 20A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt.
20Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.
21Ac oherwydd i’r bydwragedd ofni Duw, yntau Edrych 1 Sam 2:35; 2 Sam 7:11, 27, 29; 1 Bren 2:24; 11:38a wnaeth dai iddynt hwythau.
22A Pharo a orchmynnodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Act 7:19Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.