1 Cronicl 10 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Cwymp Saul, a’i farwolaeth. 8 Gorfoledd y Philistiaid o’r achos hwnnw. 11 Caredigrwydd Jabes Gilead tuag at Saul a’i feibion. 13 Pechod Saul, am yr hwn yr aeth y frenhiniaeth oddi wrtho ef i Dafydd.

1A’r archolledig ym mynydd Gilboa.

2A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul.

3A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen bwâu a’i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion.

4Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwân fi ag ef, rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi, canys ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno.

5A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw.

6Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd.

7A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy a ymadawsant o’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.

8A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa.

9Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i’w delwau, ac i’r bobl.

10A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.

11A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul,

12Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.

13Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd, 1 Sam 13:13; 15:23 sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, 1 Sam 28:7i ymofyn â hi;

14Ac heb ymgynghori â’r Arglwydd: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help