1 Arglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi.
2Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.
3O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
4O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
11 Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
12Oni ddychwel yr annuwiol, efe Deut 32:41a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd.
13Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: Deut 32:23, 42efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
14 Job 15:35; Esa 33:11; 59:4; Iago 1:15 Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd.
15Torrodd bwll, cloddiodd ef, Job 4:8; Salm 9:15; 10:2; 35:8; 94:13; 141:10; Diar 5:22; 26:27; Preg 10:8syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.
16 1 Bren 2:32 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
17Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr Arglwydd goruchaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
