Salm 111 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 1111 Y Salmydd, trwy ei esiampl ei hun, yn annog eraill i foliannu Duw, am ei ogoneddus 5 a’i rasusol weithredoedd. 10 Mai ofn Duw sydd yn magu gwir ddoethineb.

1 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.

2Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant.

3Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.

6Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

7Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help