1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
2Llefarwch wrth feibion Israel, a dywedwch wrthynt, peth yr eisteddo efe arno.
5A’r neb a gyffyrddo â’i wely ef, golched ei ddillad, ac ymdroched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
6A’r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
7A’r hwn a gyffyrddo â chnawd y diferllyd, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
8A phan boero’r diferllyd ar un glân, golched hwnnw ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
9Ac aflan fydd pob cyfrwy y marchogo’r diferllyd ynddo.
10A phwy bynnag a gyffyrddo â dim a fu dano, bydd aflan hyd yr hwyr: a’r hwn a’u dyco hwynt, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
11A phwy bynnag y cyffyrddo’r diferllyd ag ef, heb olchi ei ddwylo mewn dwfr, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
12A’r Pen 6:28; 11:32, 33llestr pridd y cyffyrddo’r diferllyd ag ef, a ddryllir: a phob llestr pren a olchir mewn dwfr.
13A phan lanheir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif; yna Pen 14:8cyfrifed iddo saith niwrnod i’w lanhau, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegog, a glân fydd.
14A’r wythfed dydd cymered iddo ddwy durtur, neu Pen 14:22ddau gyw colomen, a deued gerbron yr Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i’r offeiriad.
15Ac offrymed yr offeiriad hwynt, un yn bech‐aberth, a’r llall yn boethoffrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei ddiferlif, gerbron yr Arglwydd.
16Ac Deut 23:10os gŵr a ddaw oddi wrtho ddisgyniad had; yna golched ei holl gnawd mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
17A phob dilledyn, a phob croen, y byddo disgyniad had arno, a olchir mewn dwfr, ac a fydd aflan hyd yr hwyr.
18A’r wraig y cysgo gŵr mewn disgyniad had gyda hi; ymolchant mewn dwfr, a byddant aflan hyd yr hwyr ill dau.
19A Pen 12:2phan fyddo gwraig â diferlif arni, a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed; bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth: a phwy bynnag a gyffyrddo â hi, bydd aflan hyd yr hwyr.
20A’r hyn oll y gorweddo hi arno yn ei gwahaniaeth, fydd aflan; a’r hyn oll yr eisteddo hi arno, a fydd aflan.
21A phwy bynnag a gyffyrddo â’i gwely hi, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
22A phwy bynnag a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
23Ac os ar y gwely y bydd efe, neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd ag ef; hyd yr hwyr y bydd efe aflan.
24Ond Edrych Pen 20:18os gŵr gan gysgu a gwsg gyda hi, fel y byddo o’i misglwyf hi arno ef; aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno.
25A Mat 9:20; Marc 5:25; Luc 8:43phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ôl ei hanhwyl; bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan fydd hi.
26Pob gwely y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif, fydd iddi fel gwely ei misglwyf; a phob dodrefnyn yr eisteddo hi arno fydd aflan, megis aflendid ei misglwyf hi.
27A phwy bynnag a gyffyrddo â hwynt, aflan fydd; a golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.
28Ac os glanheir hi o’i diferlif; yna cyfrifed iddi saith niwrnod: ac wedi hynny glân fydd.
29A’r wythfed dydd cymered iddi ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a dyged hwynt at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.
30Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, a’r llall yn boethoffrwm; a gwnaed yr offeiriad gymod drosti gerbron yr Arglwydd, am ddiferlif ei haflendid.
31Felly y neilltuwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflendid, pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg.
32Dyma gyfraith yr hwn y byddo’r diferlif arno, a’r hwn y daw oddi wrtho ddisgyniad had, fel y byddo aflan o’u herwydd;
33A’r glaf o’i misglwyf, a’r neb y byddo’r diferlif arno, o wryw, ac o fenyw, ac i’r gŵr a orweddo ynghyd â’r hon a fyddo aflan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.