1Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dos, a chais ystên bridd y crochenydd, a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid,
2A dos allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain, a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt;
3A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, gyfannu mwyach; ac yn Pen 7:32Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu.
12Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn, medd yr Arglwydd, ac i’r rhai sydd yn trigo ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet.
13A thai Jerwsalem, a thai brenhinoedd Jwda, a fyddant halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl 2 Bren 23:12; Pen 32:29dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac Pen 7:18y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr.
14Yna y daeth Jeremeia o Toffet, lle yr anfonasai yr Arglwydd ef i broffwydo, ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl,
15Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am Pen 17:23galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
