Actau’r Apostolion 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —1 Wedi i Ananeias a Saffira ei wraig, am eu rhagrith, gwympo i lawr yn feirw wrth gerydd Pedr, 12 ac i’r apostolion eraill wneuthur llawer o wyrthiau 14 er cynnydd i’r ffydd, 17 y mae yr apostolion yn cael eu carcharu eilwaith; 19 ac er hynny yn cael eu gwaredu gan angel, yr hwn sydd yn erchi iddynt bregethu i bawb ar gyhoedd: 21 hwythau, wedi iddynt bregethu felly yn y deml, 29 a cherbron y cyngor, 33 mewn perygl o gael eu lladd; eithr trwy gyngor Gamaliel, cynghorwr mawr ym mhlith yr Iddewon, yn cael eu cadw yn fyw, 40 ac yn unig eu curo: a hwythau yn gogoneddu Duw am hynny, ac heb beidio â phregethu.

1Eithr rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir,

2Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd o’r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion.

3Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir?

4Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.

5Ac Ananeias, pan glybu’r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn.

6A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant allan, ac a’i claddasant.

7A bu megis ysbaid tair awr, a’i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.

8A Phedr a atebodd iddi, Dywed di i mi, Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau a ddywedodd, Ie, er cymaint.

9A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a’th ddygant dithau allan.

10Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a’r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a’i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a’i claddasant hi yn ymyl ei gŵr.

11A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu’r pethau hyn.

12A ar hyd yr heolydd, a’u gosod ar welyau a glythau, fel genfigen,

18Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin.

19Eithr blaenor y deml, a’r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn.

25Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae’r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl.

26Yna y blaenor, gyda’r swyddogion, a aeth, ac a’u dug hwy heb drais; oblegid ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.

37Ar ôl hwn y cyfododd Jwdas y Galilead, yn nyddiau’r dreth; ac efe a drodd bobl lawer ar ei ôl: ac yntau hefyd a ddarfu amdano, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd.

38Ac yr awron meddaf i chwi, Ciliwch oddi wrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: oblegid Diar 21:30; Esa 8:10; Mat 15:13os o ddynion y mae’r cyngor hwn, neu’r weithred hon, fe a ddiddymir;

39Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael Pen 9:5; 23:9yn ymladd yn erbyn Duw.

40A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw’r apostolion atynt, a’u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a’u gollyngasant ymaith.

41A hwy a aethant allan o olwg y cyngor Mat 5:12; Heb 10:34; Iago 1:2; 1 Pedr 4:13, 16yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef.

42A beunydd Pen 2:46yn y deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help