1Yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerwsalem, allan o’u beddau.
2A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.
3Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd Arglwydd y lluoedd.
4Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?
5Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd.
6Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr.
7Ie, ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.
9a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr Arglwydd; a pha ddoethineb sydd ynddynt?
10Am hynny ddifa y difâf hwynt, medd yr Arglwydd; ni bydd grawnwin bustl i’w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd.
15ac oll a oedd ynddo; y ddinas a’r rhai sydd yn trigo ynddi.
17Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i’ch mysg, y rhai nid oes ynof.
19Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant â’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?
20Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.
21Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i: galerais; daliodd synder fi.
22Onid oes wellha iechyd merch fy mhobl?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.