1Na Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.
15 Deut 13:3; Jer 23:16; Pen 24:4 ; Rhuf 16:17; Eff 5:6; Col 2:8; 1 Ioan 4:1Ymogelwch rhag gau broffwydi, Micha 3:5; 2 Tim 3:5y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.
16Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Luc 6:43A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall?
17Felly Pen 12:33pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.
18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.
19Pen 3:10; Ioan 15:2, 6Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
20Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21 Hos 8:2; Pen 25:11; Luc 6:46; 13:25; Act 19:13; Rhuf 2:13; Iago 1:22Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
22Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni Num 24:4; Ioan 11:51; 1 Cor 13:2phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?
23Ac Luc 13:25, 27; 2 Tim 2:19yna yr addefaf wrthynt, Pen 25:12Nid adnabûm chwi erioed: Salm 6:8; Pen 25:41ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.
24Gan hynny Luc 6:47pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig:
25A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig.
26A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod:
27A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.
28A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn, Marc 1:22; 6:2; Luc 4:32y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef:
29Ioan 7:46Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.