Ioan 19 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —1 Fflangellu Crist, a’i goroni â drain, a’i guro. 4 Peilat yn chwennych ei ollwng ef yn rhydd: eto, wedi ei orchfygu gan lefain yr Iddewon, yn ei roddi ef i’w groeshoelio. 23 Bwrw coelbrennau ar ei ddillad ef: 26 yntau yn gorchymyn ei fam i Ioan; 28 ac yn marw. 31 Gwanu ei ystlys ef. 38 Joseff a Nicodemus yn ei gladdu ef.

1Yna gan hynny gernodiau.

4Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.

5Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwain y goron ddrain, a’r wisg borffor. A Pheilat a ddywedodd wrthynt, Wele’r dyn.

6Yna yr archoffeiriaid a’r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. Peilat a ddywedodd wrthynt, Cymerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.

7Yr Iddewon a atebasant iddo, Lle’r benglog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha:

18Lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.

19 gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll.

24Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goelbrennau amdani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythur sydd yn dywedyd, Cleoffas, a Mair Magdalen.

26Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, Pen 13:23; 21:24a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, Pen 2:4 O wraig, wele dy fab.

27Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.

28Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orffen weithian, Salm 69:21fel y cyflawnid yr ysgrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.

29Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a Mat 27:48hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghylch isop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef.

30Yna pan gymerodd yr Iesu’r finegr, efe a ddywedodd, Pen 17:4Gorffennwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny yr ysbryd.

31Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoai’r cyrff ar y groes ar y Saboth, oherwydd ei bod yn ddarpar‐ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Saboth hwnnw,) a ddeisyfasant ar Peilat gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr.

32Yna y milwyr a ddaethant, ac a dorasant esgeiriau’r cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gydag ef.

33Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorasant ei esgeiriau ef.

34Ond un o’r milwyr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon: ac yn y fan 1 Ioan 5:6daeth allan waed a dwfr.

35A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi.

36Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, Exod 12:46; Num 9:12; Salm 34:20fel y cyflawnid yr ysgrythur, Ni thorrir asgwrn ohono.

37A thrachefn, Sech 12:10ysgrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.

38 Mat 27:57; Marc 15:42; Luc 23:50 Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, Pen 9:22; 12:42rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu.

39A daeth Pen 3:1, 2; 7:50Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys.

40Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i Act 5:6rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu.

41Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed.

42Ac yno, rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help