1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,
2Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti’r ewin; aflan fydd i chwi.
5A’r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi’r ewin; aflan yw i chwi.
6A’r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi’r ewin; aflan yw i chwi.
7A’r llwdn hwch, am ei fod yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; wenci, a’r lysard, a’r ystelio, a’r falwoden, a’r wadd.
31Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.
32A phob dim y cwympo un ohonynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd lân.
33A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o’r rhai hyn i’w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o’i fewn; a dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan.
37Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.
38Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi.
39Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.
40aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd‐dra ydynt.
43Pen 20:25Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o’u plegid, fel y byddech aflan o’u herwydd.
44Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a Pen 19:2; 20:7; 1 Pedr 1:15, 16byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
45Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
46Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a’r ehediaid, a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear;
47I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a’r hwn nis bwyteir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.