Josua 10 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

5 Pum brenin yn rhyfela yn erbyn Gibeon. 7 Josua yn ei hachub hi. 10 Duw yn ymladd yn eu herbyn hwynt â chenllysg. 12 Yr haul a’r lleuad yn sefyll ar air Josua. 18 Cau ar y pum brenin mewn ogof. 23 Eu dwyn allan; 24 eu diystyru, 26 a’u crogi. 28 Gorchfygu saith brenin ychwaneg. 43 Josua yn dychwelyd i Gilgal.

1A phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (o’r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.

3Am hynny Adonisedec brenin Jerwsalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Piram brenin Jarmuth, ac at Jaffia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd.

4Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.

5Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt‐hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

6A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir, a ymgynullasant i’n herbyn ni.

7Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a’r holl bobl o ryfel gydag ef, a’r holl gedyrn nerthol.

8A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di.

9Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal.

10A’r Arglwydd aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.

13A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

14Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.

15 threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr Arglwydd eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.

20A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog.

21A’r holl bobl a ddychwelsant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel Deut 20:16, 17y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel.

41A Josua a’u trawodd hwynt o Cades‐barnea, hyd Gasa, Pen 11:16a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.

42Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel.

43Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll yn Gilgal.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help