1Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias.
2A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.
3A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion.
4Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef.
42A hwy a ddywedasant, Mat 13:55; Marc 6:3; Luc 4:22Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais?
43Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd.
44Can 1:4; Ioan 6:65Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf.
45Esa 54:13; Jer 31:34; Heb 8:10; 10:16Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi.
46Mat 11:27; Luc 10:22; Ioan 1:18; 7:29; 8:19Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad.
47Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pen 3:16, 18, 36Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol.
48Myfi yw bara’r bywyd.
49Pen 6:31Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw.
50Pen 6:51, 58Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw.
51Myfi yw’r bara bywiol, Pen 3:13yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r Heb 10:5, 10bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.
52Yna yr Iddewon Pen 7:43; 9:16; 10:19a ymrysonasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Pen 3:9Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta?
53Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni Mat 26:26, 28fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.
54Pen 6:27; Ioan 4:14Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.
55Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir.
56Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau.
57Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi.
58Pen 6:50, 51Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd.
59Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapernaum.
60Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno?
61Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi?
62Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu Pen 3:13; Act 1:9; Eff 4:8lle yr oedd efe o’r blaen?
632 Cor 3:6Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt.
64Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys Pen 2:24, 25; 13:11yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef.
65Ac efe a ddywedodd, Am hynny Pen 6:44, 45y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.
66O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef.
67Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith?
68Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae Act 5:20geiriau bywyd tragwyddol.
69Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai Mat 16:16; Ioan 1:49; 11:27tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw.
70Iesu a’u hatebodd hwynt, Luc 6:13Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, Pen 13:27ac ohonoch y mae un yn ddiafol?
71Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o’r deuddeg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.